Llwybr Richard Burton
ANHAWSTER:
- Rhywfaint o Ymdrech
PELLTER:
-
8.8 km / 5.4 milltir
CANIATAU:
-
2 awr a 45 munud
CYNEFIN:
- Trefol/coetir
MAN CYCHWYN:
-
Maes Parcio Rhyslyn
Mae'r daith gerdded hon yn cynnig cymysgedd diddorol o ddiwylliant, hanes a golygfeydd trawiadol. Dechreuwch ym maes parcio Rhyslyn ac ewch ar hyd y ffordd uchaf, gan droi i'r chwith dros draphont, un o nodweddion y dirwedd ynddi'i hun. Mae'r rhan fwyaf o'r daith gerdded yn hawdd ac yn hygyrch i bawb, heblaw am ychydig o risiau sy'n eich arwain i lawr heibio i'r ysgol i'r ffordd islaw. Yn y lle hwn mae modd osgoi troi i'r chwith ac yna i'r chwith eto i'r llwybr beicio sy'n gallu cael ei ddilyn i'r fainc bortreadau a ddangosir yn y daflen hon.
Mae man geni Richard Burton yn nodweddiadol o'r Cymoedd yn eu crynswth. Ceir paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr hwn gan nodi pwyntiau diddorol am Richard Burton, ei blentyndod a'i yrfa. Er iddo symud i Dai-bach yn ddwy flwydd oed, mae Pontrhydyfen yn bwysig am fod yn fan geni iddo ac roedd yr actor yn ymweld yn aml â'r pentref yn ystod ei yrfa Hollywood.
Gwylio Bywyd Gwyllt: Ar hyd y llwybr ceir olion hen weithfeydd glo sydd bellach yn hafan i fywyd gwyllt. Gwelir rhywogaethau arloesol o blanhigion, yn enwedig mwsoglau, ar hyd y daith gyfan. Mae planhigion diddorol yn cynnwys meddyg y bugail a thegeirian-y-gors deheuol. Yn yr haf, mae modd gweld ieir bach yr haf megis gweirlöyn y glaw.
Camlas Nedd Resolfen – Glyn-nedd

Llwybr gwastad dymunol iawn, yn addas i bawb. Dechrau yn y maes parcio ger y...
Darllen mwyCwm Cryddan

Dynodwyd Cwm Cryddan, sy'n goetir derw gan mwyaf, yn warchodfa natur leol yn 2008. Mae'r...
Darllen mwyCwm Du a Phlanhigfa Glanrhyd

Mae modd cyrraedd y trysor cuddiedig hwn o gwm o'r Groes yng nghanol tref Pontardawe...
Darllen mwy